PWYSIG: AROLWG ANGHENION CYMUNED
Fel cyngor cymuned rydym eisiau clywed beth sy’n bwysig i chi yn ardal Dyffryn Ardudwy a Thalybont, ac adnabod beth ellir ei wneud i wella’r pentrefi er budd ein cymuned. Bydd pawb sy’n darparu manylion cyswllt yn cael cyfle i enwebu grwp, clwb, ysgol neu elusen sy’n gweithredu o fewn ardal y Cyngor Cymuned am gyfle i ennill gwobr o £100!
Fedrwch lenwi’r holiadur dros y we drwy’r linc isod:
